Head of School of Education at Bangor University
Job Description
Bangor University is seeking an outstanding academic leader to drive the ambitious development of its School of Education.
Set in Wales’ oldest city in beautiful surroundings, Bangor’s mission is for a research-led University of and for North Wales, providing transformative learning experiences and nurturing a positive impact on society regionally, nationally, and internationally.
Reporting to the PVC/Head of the College of Arts, Humanities and Social Sciences, you will be fully responsible for the academic leadership and management of the School. You will have a remit to establish a clear vision with a focus on growth, quality and scale of education provision and research, as well as enhancing external reputation and visibility, all with institutional backing and investment. Teacher training at Bangor has a tradition going back to a constituent College in the 1850s before the University was created and the School of Education, which essentially teaches the Teachers of North Wales, is of national importance. The wider College of Arts, Humanities and Social Sciences provides an opportunity to work collaboratively on inter-disciplinary research opportunities and a platform for future growth and development.
Academic and research credibility as an Educationalist will be essential as will an appreciation of the bilingual element of the School, but key to your success will be an engaging approach combined with management experience and clarity of leadership and vision.
For further information and details of how to apply, please click the ‘Apply’ button or contact Mike Dixon of Dixon Walter at mike@dixonwalter.co.uk or on 0787 675 1896.
The closing date for application is midnight, Sunday 11th February 2024.
Final selection will take place in March 2024 TBC.
Bangor University values the diversity of all our staff and the enrichment this brings to our community. We are committed to an inclusive and supportive environment for all who come to work with us. We aim to take every opportunity to progress equality and diversity and actively encourage applications from candidates who are underrepresented at this level.
Mae Prifysgol Bangor yn chwilio am arweinydd academaidd rhagorol i sbarduno datblygiad uchelgeisiol ei Hysgol Addysg.
Saif Bangor, dinas hynaf Cymru, mewn man hyfryd. Cenhadaeth Bangor yw Prifysgol o dan arweiniad ymchwil sy’n perthyn i Ogledd Cymru sydd ar gyfer Gogledd Cymru, a hithau’n darparu profiadau dysgu trawsnewidiol ac yn meithrin effaith gadarnhaol ar gymdeithas yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Byddwch yn adrodd i’r Dirprwy Is-Ganghellor/Pennaeth Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas. Byddwch yn gwbl gyfrifol am arweinyddiaeth a rheolaeth academaidd yr Ysgol. Bydd gennych gylch gorchwyl i sefydlu gweledigaeth glir a phwyslais ar dwf, ansawdd a maint y ddarpariaeth addysg ac ymchwil, yn ogystal â gwella enw da ac amlygrwydd allanol, y cyfan gyda chefnogaeth a buddsoddiad y sefydliad. Mae i hyfforddiant athrawon ym Mangor draddodiad sy’n mynd yn ôl i’r Coleg cyfansoddol yn y 1850au cyn creu’r Brifysgol. Mae’r Ysgol Addysg, sydd yn ei hanfod yn addysgu Athrawon Gogledd Cymru, o bwys cenedlaethol. Mae Coleg ehangach y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithas yn gyfle i gydweithio ar gyfleoedd ymchwil rhyngddisgyblaethol ac mae’n llwyfan i dwf a datblygiad at y dyfodol.
Bydd hygrededd academaidd ac ymchwil fel Addysgwr yn hanfodol yn ogystal â gwerthfawrogiad o elfen ddwyieithog yr Ysgol, ond yn allweddol i’ch llwyddiant bydd y gallu i ennyn diddordeb ynghyd â phrofiad o reoli ac eglurder mewn arweinyddiaeth a gweledigaeth.
I gael rhagor o wybodaeth a manylion ynglŷn â sut mae gwneud cais, gweler https://www.dixonwalter.co.uk/opportunities/bangor-hos-education/ neu cysylltwch â Mike Dixon o Dixon Walter ar mike@dixonwalter.co.uk neu 0787 675 1896.
Dyddiad cau ceisiadau yw hanner nos, ddydd Sul 11 Chwefror 2024.
Bydd y dewis terfynol yn digwydd Mawrth 2024.
Mae Prifysgol Bangor yn gwerthfawrogi amrywiaeth ein holl staff a’r cyfoethogi a ddaw yn sgil hynny i’n cymuned. Rydym yn ymrwymo i sicrhau awyrgylch cynhwysol a chefnogol i bawb a ddaw atom i weithio. Ein nod yw manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ac rydym yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr nad oes ganddynt gynrychiolaeth ddigonol ar y lefel hon.