Senior Research Fellow, Speech and Language Therapy at Cardiff Metropolitan University

April 7, 2024

Job Description

Job Description Senior Research Fellow, Speech and Language Therapy – English.pdf

Job Description Senior Research Fellow, Speech and Language Therapy – Welsh.pdf

Location: Llandaff Campus 

Package: Fixed term until 30/09/2027

Contractual hours: 37

Job category/type: Academic

Job description

The opportunity

This is a rare opportunity for an experienced post doctoral Speech and Language Therapist to focus specifically on research with a view to establishing themselves as a research leader. A key part of the new Partnership between Cardiff Metropolitan University’s School of Sport and Health Science (CSSHS) and Bristol Speech and Language Therapy Research Unit (BSLTRU), with support from The Underwood Trust, will be interdisciplinary, international, and impactful postgraduate and research provision. The Partnership will develop existing research strengths and opportunities to coordinate and deliver interdisciplinary and international postgraduate and research provision with high levels of impact.

The postholder will support the Director of BSLTRU in stimulating and delivering interdisciplinary research activity, bringing experience in relevant research grant capture, producing academic outputs, and supporting the development of other researchers.

The postholder will provide high quality research development support and guidance for the academic staff. This will include developing growth plans, monitoring funding sources, identifying potential funding sources of relevance to the expertise of relevant research groups, communicating funding opportunities, gathering, and editing materials for bid development, authoring bids in collaboration with academic staff and leading relevant funding proposals. This will include external engagement to develop research partnerships both nationally and internationally and across disciplines to promote the use of design in addressing global challenges. Some travel is anticipated across the UK and occasionally internationally.

What you’ll do – key duties

  • Develop research growth plans with senior researchers, as lead and co-applicant for a range of funding applications. Develop long-term plans, with short and mid- term goals.
  • Create and implement an approach to early career development that can be formalised within, and across, the Partnership.
  • Contribute to the strategic development of the Partnership by planning and developing outline and detailed proposals with research groups.
  • Identify potential funding sources via desk research, relationship building with funding bodies and other academics (internal and external) and attendance at appropriate briefing sessions.
  • Project manage the development of funding proposals including gathering and editing of materials, monitoring progress, managing internal sign-off and submitting applications.
  • Manage and strategically plan bid development resources and authoring and editing funding application text in collaboration with academic staff.
  • Collaborate with other academics to support academic output creation (e.g. peer reviewed journal papers) and where appropriate, lead the development of academic output that can be considered for submission at future REF exercises.
  • Seek new and innovative opportunities, outside of traditional academic activity for research groups, exploring professional training and/or interdisciplinary Masters’ modules across research groups.
  • Lead the development of speech focussed interdisciplinary research proposals.
  • Lead the development of research teams across Cardiff Met through collaboration with senior researchers and early career researchers, 

What you’ll bring – essential experience & strengths

  • A good level of knowledge relevant to speech and language therapy related research in the fields of speech sound disorder, cleft and/or stammering.
  • Detailed knowledge of UKRI and other relevant research funding.
  • Excellent knowledge of research programmes and research impact and ensuring research quality.
  • Proven experience in successful research proposal development for academic research gained in an HEI environment, and with a diverse range of partners (third sector, public and private sectors).
  • Proven experience of developing and maintaining multi-partner/multi-national project relationships/networks.
  • Proven experience of developing successful multi- partner/multi-national project proposals.
  • Experience of a significant contribution to the delivery of an academic research programme.
  • Experience of supervising teams Significant post-graduate level experience.
  • Proven experience in publishing academic work.
  • You will be an enthusiastic and friendly professional with excellent communication and interpersonal skills coupled with a commitment to providing an excellent student experience.
  • Doctoral level qualification in design or a related discipline; or other doctoral qualification with experience in projects related to design. 

Why Cardiff Metropolitan University?

In 2020, the University was named The Sunday Times ‘Welsh University of the Year 2021’; in 2021 it became the Times Higher Education ‘UK and Ireland University of the Year 2022’; and in 2022 it was ranked the top university in the UK in the People and Planet Green League.

Our performance in this year’s Guide is exceptional. Our University was the biggest riser in Wales, and the third biggest in the UK, placing us in the UK top 40 for student satisfaction with teaching quality and the wider student experience.

We are very pleased that our strong performance has resulted in the University attracting high numbers of well qualified students and we are now seeking additional staff in both our academic schools and professional services departments.

We have a range of great benefits for employees including:

  • Annual leave of 35 days, plus 12 bank holiday / concessionary days (pro rata if part time)
  • Membership of the Local Government Pension Scheme with generous contributions
  • Flexible and remote working opportunities
  • Award winning sports and fitness facilities with subsidised membership, plus subsidised physiotherapy/complementary therapy/sports massage
  • Access to all library facilities

If you would like to talk with us about this opportunity please contact Professor Yvonne Wrenn, at ywren@cardiffmet.ac.uk or for further information about working with us at our University please visit our recruitment website.

Should a high volume of applications be received, we may need to close this vacancy early. We therefore encourage you to apply as early as possible.

The University is committed to creating a diverse and inclusive workplace. We particularly welcome applications from underrepresented communities.

Further Information

Please visit our website for information about working for us, our culture, benefits, work-life balance and our career progression and development opportunities.

Manylion y swydd

Teitl y swydd: Uwch Gymrawd Ymchwil, Therapi Iaith a Lleferydd

Cyfeirnod y swydd: 23REQ0002799

Dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 10/04/2024

Lleoliad: Campws Llandaf

Cyflog: Gradd 8AB, £51,283 – £59,421 y flwyddyn

Pecyn: Cyfnod Pennodol hyd at 30ain Medi 2027

Oriau cytundebol: 37

Sail: Llawn Amser

Math/categori swydd: Academaidd

Disgrifiad swydd: Y Cyfle

Mae hwn yn gyfle prin i Therapydd Iaith a Lleferydd ôl-ddoethurol profiadol ganolbwyntio’n benodol ar ymchwil gyda’r nod o sefydlu ei hun fel arweinydd ymchwil. Rhan allweddol o’r Bartneriaeth newydd rhwng Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd (YChGIC) ac Uned Ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd Bryste (BSLTRU), gyda chymorth gan The Underwood Trust, fydd darpariaeth ôl-raddedig ac ymchwil rhyngddisgyblaethol, rhyngwladol ac sy’n cael effaith. Bydd y Bartneriaeth yn datblygu cryfderau ymchwil presennol a chyfleoedd i gydlynu a chyflawni darpariaeth ôl-raddedig ac ymchwil rhyngddisgyblaethol a rhyngwladol gyda lefelau uchel o effaith.

Bydd deiliad y swydd yn cefnogi Cyfarwyddwr BSLTRU wrth ysgogi a chyflawni gweithgarwch ymchwil rhyngddisgyblaethol, gan ddwyn profiad o ennill grantiau ymchwil perthnasol, cynhyrchu allbynnau academaidd a chefnogi datblygiad ymchwilwyr eraill. 

Bydd deiliad y swydd yn darparu cymorth ac arweiniad datblygu ymchwil o ansawdd uchel i’r staff academaidd. Bydd hyn yn cynnwys datblygu cynlluniau twf, monitro ffynonellau cyllid, nodi ffynonellau cyllid posibl sy’n berthnasol i arbenigedd grwpiau ymchwil perthnasol, cyfathrebu cyfleoedd am gyllid, casglu a golygu deunyddiau ar gyfer datblygu ceisiadau, awdurdodi ceisiadau mewn cydweithrediad â staff academaidd ac arwain cynigion perthnasol am gyllid. Bydd hyn yn cynnwys ymgysylltu allanol er mwyn datblygu partneriaethau ymchwil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ac ar draws disgyblaethau i hyrwyddo’r defnydd o ddylunio wrth fynd i’r afael â heriau byd-eang. Rhagwelir rhywfaint o deithio ledled y DU ac yn rhyngwladol weithiau.

Beth fyddwch chi’n ei wneud – dyletswyddau allweddol

  • Datblygu cynlluniau twf ymchwil gydag uwch ymchwilwyr, fel arweinydd a chyd-ymgeisydd ar gyfer amrywiaeth o geisiadau am gyllid. Datblygu cynlluniau hirdymor, gyda nodau tymor byr a thymor canolig.
  • Creu a gweithredu agwedd at ddatblygiad gyrfa gynnar y gellir ei ffurfioli yn y Bartneriaeth, ac ar ei thraws.
  • Cyfrannu at ddatblygiad strategol y Bartneriaeth trwy gynllunio a datblygu cynigion amlinellol a manwl gyda grwpiau ymchwil.
  • Nodi ffynonellau cyllid posibl trwy ymchwil pen desg, meithrin perthnasoedd â chyrff cyllido ac academyddion eraill (mewnol ac allanol) a mynychu sesiynau briffio priodol.
  • Bod yn rheolwr prosiect o ran datblygu cynigion am gyllid gan gynnwys casglu a golygu deunyddiau, monitro cynnydd, rheoli cymeradwyaeth fewnol a chyflwyno ceisiadau.
  • Rheoli a chynllunio adnoddau datblygu ceisiadau’n strategol ac awdurdodi a golygu testun y ceisiadau am gyllid mewn cydweithrediad â staff academaidd.
  • Cydweithio ag academyddion eraill i gefnogi’r gwaith o greu allbwn academaidd (e.e. papurau cyfnodolion a adolygwyd gan gymheiriaid) a, lle bo hynny’n briodol, arwain datblygiad allbwn academaidd y gellir ei ystyried i’w gyflwyno mewn ymarferion REF yn y dyfodol.
  • Chwilio am gyfleoedd newydd ac arloesol, y tu hwnt i weithgarwch academaidd traddodiadol ar gyfer grwpiau ymchwil, archwilio hyfforddiant proffesiynol a/neu fodiwlau Meistr rhyngddisgyblaethol ar draws grwpiau ymchwil.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu cynigion ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar leferydd.
  • Arwain y gwaith o ddatblygu timau ymchwil ledled Met Caerdydd drwy gydweithio ag uwch ymchwilwyr ac ymchwilwyr gyrfa gynnar.

Beth fyddwch chi’n ei gyfrannu – profiad a chryfderau hanfodol

  • Lefel dda o wybodaeth yn berthnasol i ymchwil sy’n gysylltiedig â therapi iaith a lleferydd ym meysydd anhwylder sain lleferydd, hollt a/neu atal dweud.
  • Gwybodaeth fanwl am UKRI a chyllid ymchwil perthnasol arall.
  • Gwybodaeth ragorol o raglenni ymchwil ac effaith ymchwil a sicrhau ansawdd ymchwil.
  • Profiad profedig o ddatblygu cynigion ymchwil yn llwyddiannus ar gyfer ymchwil academaidd a gafwyd mewn amgylchedd SAU, a chydag ystod amrywiol o bartneriaid (y trydydd sector, y sector cyhoeddus a phreifat).
  • Profiad profedig o ddatblygu a chynnal perthnasoedd/rhwydweithiau prosiect aml-bartner/amlwladol.
  • Profiad profedig o ddatblygu cynigion prosiect aml-bartner/amlwladol llwyddiannus.
  • Profiad o gyfrannu’n sylweddol at gyflawni rhaglen ymchwil academaidd.
  • Profiad o oruchwylio timau. Profiad sylweddol ar lefel ôl-raddedig.
  • Profiad profedig o gyhoeddi gwaith academaidd.
  • Byddwch yn weithiwr proffesiynol brwdfrydig a chyfeillgar gyda sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol ynghyd ag ymrwymiad i ddarparu profiad rhagorol i fyfyrwyr.
  • Cymhwyster ar lefel ddoethurol mewn dylunio neu ddisgyblaeth gysylltiedig; neu gymhwyster doethurol arall ynghyd â phrofiad mewn prosiectau sy’n ymwneud â dylunio.

Pam ymuno â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd?

Yn 2020 cafodd y Brifysgol ein henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn yng Nghymru 2021’ gan The Sunday Times; yn 2021 cawsom ein henwi’n ‘Brifysgol y Flwyddyn y DU ac Iwerddon 2022’ gan y Times Higher Education ac yn 2022 cawsom ein rhestru fel y brifysgol orau yn y DU am gynaliadwyedd yng Nghynghrair Werdd People and Planet a’r brifysgol orau yng Nghymru yn yr Arolwg Hynt Graddedigion. 

Mae ein perfformiad yn y Canllaw eleni’n eithriadol.  Ein Prifysgol ddangosodd y cynnydd mwyaf yng Nghymru, a’r trydydd mwyaf yn y DU, gan ein rhoi yn y 40 uchaf yn y DU ar gyfer boddhad myfyrwyr ag ansawdd addysgu a phrofiad ehangach myfyrwyr.

Rydym yn falch iawn bod ein perfformiad cryf wedi arwain at y Brifysgol yn denu nifer fawr o fyfyrwyr â chymwysterau da ac rydym nawr yn chwilio am staff ychwanegol yn ein hysgolion academaidd a’n hadrannau gwasanaethau proffesiynol.

Mae gennym amrywiaeth o fanteision mawr i weithwyr gan gynnwys:

  • Gwyliau blynyddol o 35 diwrnod, ynghyd â 12 gŵyl banc / diwrnod consesiynol (pro rata os yn rhan-amser)
  • Aelodaeth o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol gyda chyfraniadau hael
  • Cyfleoedd gweithio hyblyg ac o bell
  • Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd arobryn gydag aelodaeth â chymhorthdal, ynghyd â ffisiotherapi /therapi cyflenwol/tylino chwaraeon â chymhorthdal
  • Mynediad i holl gyfleusterau’r llyfrgell

Os hoffech siarad â ni am y cyfle hwn, cysylltwch ag yr Athro Yvonne Wrenn, ar ywren@cardiffmet.ac.uk neu i gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni yn ein Prifysgol ewch i’n gwefan recriwtio.

Os bydd nifer fawr o geisiadau’n dod i law, efallai y bydd angen inni gau’r swydd wag hon yn gynnar. Felly, rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl.

Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i greu gweithle amrywiol a chynhwysol. Rydym yn croesawu ceisiadau gan gymunedau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn arbennig.

Oherwydd pandemig y coronafeirws, mae ein holl recriwtio’n cael ei gynnal yn rhithiol. Ein nod yw ymateb i’ch cais cyn gynted â phosibl.

Rhagor o Wybodaeth

Ewch i’n gwefan i gael gwybodaeth am weithio inni, ein diwylliant, ein manteision, ein cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a’n cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa a datblygu.




Location